<aside>
💡 Cwrs ymarferol sy’n anelu i alluogi sefydliadau trydydd sector yng Nghymru i drawsnewid gwasanaethau yn ddigidol wrth ddefnyddio’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth.
</aside>
Manylion y cwrs
💰 Am ddim
👥 Pob lefel
🤝 Sefydliadau trydydd sector yng Nghymru
📖 Rhannau: 2
Nod a chanlyniadau dysgu
Nod y cwrs ydy darparu’r cyfranogwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i gynllunio gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr, a’u hysbrydoli i gymryd mantais o ddulliau digidol i greu’r effaith gymdeithasol fwyaf posib. Yn ystod y cwrs bydd y cyfranogwyr yn:
- Cael cyfle i ddatrys her go iawn sydd yn wynebu eu sefydliad
- Ymroi amser a gofod i brofi syniadau a dulliau newydd
- Dysgu pethau newydd am eu defnyddwyr gwasanaeth a’u hanghenion
- Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol
- Dysgu sut i ddatblygu gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y person wrth ddefnyddio’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth
- Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd
- Cael mynediad i offer ac adnoddau digidol
Sut mae’n gweithio
Rydw i eisiau dysgu am gynllunio gwasanaeth digidol
Rydw i wrthi’n ceisio cynllunio/ail-gynllunio gwasanaeth
Rhan 1: Cyflwyniad i gynllunio gwasanaethau digidol
Rhan 2: Ymarferol
👉 Cofrestrwch am ran un yma, cofrestrwch am ran un a dau yma