<aside> 👉 English

</aside>

<aside> 💡 Rhaglen 6 mis fydd yn grymuso pum sefydliad trydydd sector yng Nghymru i drawsnewid gwasanaethau yn ddigidol.

</aside>

Manylion y Rhaglen

⭐️ Ar gyfer sefydliadau trydydd sector yng Nghymru

🗓️ Rhaglen 6 mis, yn cychwyn Ebrill 2024

👥 Dim rhagofynion

⏰  Hunan astudio a gweithio

🎉 Digwyddiad dathlu mewn person i gloi

💰 Tâl o £4,800 i bob sefydliad

🤩 Am ddim i fynychu

💻 Mwyafrif o'r rhaglen yn cael ei chynnal yn rhithiol

🤝 Gweminarau a Chyfarfodydd Mentora

🛖 Mynychu digwyddiad preswyl deuddydd


🎯 Nod a chanlyniadau dysgu

Yn ystod y rhaglen yma, bydd sefydliadau yn derbyn hyfforddiant, mentora, ac arweiniad i gynllunio a datblygu gwasanaethau digidol newydd, neu i ailfeddwl gwasanaethau presennol gan ddefnyddio'r fethodoleg cynllunio gwasanaeth.

Nod y cwrs yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i'r cyfranogwyr i gynllunio gwasanaethau digidol hygyrch sydd yn canolbwyntio ar y defnyddiwr ac sydd yn arwain at sicrhau canlyniadau gwell i gymunedau yng Nghymru.

Bydd cyfranogwyr yn:

⚙️ Sut Mae’n Gweithio

Rydym yn gallu cynnig £4,800 (yn cynnwys TAW) o dâl i bob sefydliad sydd yn cymryd rhan i gyfrannu tuag at amser ac adnoddau staff, diolch i'r prosiect Cefnogaeth Ddigidol Trydydd Sector ariannir gan y Loteri Genedlaethol.

Yn ystod y cwrs 6 mis yma, byddem yn eich cefnogi i weithio ar her go iawn mae eich sefydliad yn wynebu.